Rydym yn defnyddio cwcis
We use Cookies to improve your experience on this site.
You can accept our cookies policy or customise your choices.
Please refer to our Cookies Policy for more information.
Cyflwyno
Darperir y Wefan hon gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Wefan hon yn darparu mynediad at Asedau digidol, a defnydd ohonynt, gan ddefnyddwyr cofrestredig at y dibenion awdurdodedig fel y nodir ar y Wefan hon yn unig.
Mae’r Telerau Defnyddio canlynol yn gontract rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru ar gyfer eich defnydd o’r Wefan hon ac unrhyw asedau rydych chi’n eu lawrlwytho neu eu rhannu o’r Wefan hon (Telerau).
Caiff Llywodraeth Cymru ddiwygio’r Telerau hyn unrhyw bryd. Bydd unrhyw newidiadau i’r Telerau hyn yn cael eu harddangos ar y wefan hon.
Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch o ganlyniad i’ch mynediad at y Wefan hon neu i’w defnyddio, bydd ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth honno. Yn unol â hynny, rhaid darllen y telerau defnyddio hyn ynghyd â’n Polisi Preifatrwydd.
Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r Wefan hon at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon, neu i ymddwyn mewn unrhyw ffordd a allai amharu neu achosi difrod i weithrediad y Wefan hon, boed hynny drwy firws, ffeil lwgr, neu drwy unrhyw ddull arall.
Ar ben hynny, rydych yn cytuno i beidio ag addasu, atgynhyrchu, cyfathrebu i’r cyhoedd, na delio fel arall â chynnwys, meddalwedd, testun, graffeg, cynllun neu ddyluniad y Wefan hon ac eithrio yn unol â’r Telerau Defnyddio hyn.
Er mwyn cael gafael ar wybodaeth, nodweddion neu wasanaethau penodol sy'n cael eu cynnig ar y Wefan hon, rhaid i chi greu cyfrif. I greu eich cyfrif, rhaid i chi (ymysg pethau eraill) lenwi manylion cofrestru eich cyfrif yn y modd a ddisgrifir ar y Wefan hon (gan gynnwys darparu eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair, y byddwn yn eu defnyddio i gadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan hon). Rhaid i chi sicrhau bod manylion cofrestru eich cyfrif yn gyflawn ac yn gywir pan fyddant yn cael eu cyflwyno i ni. Rhaid i chi gadarnhau bod yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi yn wir ac yn gywir, a’ch bod yn diweddaru manylion cofrestru eich cyfrif. Yn ôl ein disgresiwn (ar unrhyw adeg a heb roi rhybudd i chi) gallwn atal neu derfynu eich cyfrif, eich gallu i ddefnyddio’r Wefan hon i gyd neu ran ohoni, neu eich gallu i ddefnyddio unrhyw wybodaeth, nodweddion neu wasanaethau sydd ar gael drwy’r Wefan hon.
Mae manylion cofrestru eich cyfrif (gan gynnwys cyfrinair eich cyfeiriad e-bost) yn bersonol i chi. Rhaid i chi bob amser gadw cyfrinachedd eich cyfrinair a pheidio â’i ddatgelu i unrhyw drydydd parti. Rydych chi’n cytuno mai chi sy’n llwyr gyfrifol am unrhyw ddefnydd o’r Wefan hon gan unrhyw un sy’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair ac rydych chi’n cytuno i’n hindemnio ni yn erbyn unrhyw hawliadau sy’n codi o’ch methiant i gynnal cyfrinachedd eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfrinair. Rydych chi’n cytuno i beidio â dynwared unrhyw berson neu endid, na datgan yn ffug na chamliwio eich cysylltiad â pherson neu endid mewn ffordd arall.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled y gallech ei hwynebu o ganlyniad i rywun arall yn defnyddio eich cyfrinair neu eich cyfrif (boed hynny gyda’ch gwybodaeth neu hebddi). Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’ch cyfrif neu unrhyw achos arall o dorri diogelwch.
Er mwyn cael mynediad at y dudalen ‘Asedau’, ei lawrlwytho neu ei defnyddio drwy’r Wefan hon, rhaid i chi lenwi’r Ffurflen Lawrlwytho Asedau a chytuno ar Delerau perthnasol y Drwydded yn unol â phob ased.
I lenwi Ffurflen Lawrlwytho Asedau, rhaid i chi (ymysg pethau eraill) lenwi’r manylion yn y modd a ddisgrifir ar y Wefan hon (gan gynnwys nodi’r defnydd rydych chi’n bwriadu ei wneud o’r Asedau perthnasol). Rhaid i chi sicrhau bod y manylion a ddarperir yn y Ffurflen Lawrlwytho Asedau yn gyflawn ac yn gywir pan fyddant yn cael eu cyflwyno i ni, ac ardystio bod yr wybodaeth a roddwyd gennych yn wir ac yn gywir.
O bryd i’w gilydd, efallai y bydd y Wefan hon yn eich galluogi chi a defnyddwyr eraill i gyflwyno cynnwys, ac unrhyw gynnwys arall sy’n cael ei gyflwyno gan ddefnyddwyr (‘cynnwys defnyddwyr’). Rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl hawliau angenrheidiol (gan gynnwys trwyddedau priodol) i gyflwyno neu gyflenwi cynnwys y defnyddiwr i'r Wefan hon.
Drwy greu, addasu, trosglwyddo, lanlwytho neu gyflwyno unrhyw gynnwys defnyddiwr, rydych chi’n gwneud y canlynol:
Chi sy’n llwyr gyfrifol am y cynnwys defnyddiwr rydych chi’n ei ddarparu drwy’r Wefan. Rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu bod unrhyw gynnwys defnyddiwr y byddwch yn ei ddarparu yn gwneud y canlynol:
Rydych yn cytuno i indemnio a dal Llywodraeth Cymru a Brandkit yn atebol yn gyfan gwbl, yn ogystal â’u swyddogion, cyfarwyddwyr, cyfranddalwyr, gweithwyr, ymgynghorwyr, asiantau a chyrff corfforaethol cysylltiedig, rhag unrhyw hawliad, atebolrwydd, iawndal a chostau trydydd parti (gan gynnwys ffioedd cyfreithwyr rhesymol) sy'n deillio o'ch gweithredoedd neu'r cynnwys defnyddiwr yr ydych yn ei ddarparu.
Nid oes gennym unrhyw rwymedigaeth i chi i sicrhau bod y Wefan hon nac unrhyw gynnwys neu Asedau defnyddwyr ar gael. Yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, gall Llywodraeth Cymru neu Brandkit ddileu unrhyw gynnwys neu Asedau defnyddwyr ar unrhyw adeg. Gallwn ar unrhyw adeg olygu, gwrthod dangos neu dynnu unrhyw ran o’r System hon (gan gynnwys eich cynnwys defnyddiwr) sy’n briodol yn ein barn ni.
Mae’r deunyddiau sy’n cael eu harddangos ar y Wefan hon yn cael eu gwarchod gan hawlfraint a chyfreithiau eraill Seland Newydd, ac o dan gyfreithiau tebyg a chonfensiynau rhyngwladol dramor. Oni nodir yn wahanol, bydd hawlfraint a hawliau eiddo eraill yn yr holl ddeunydd a gyhoeddir neu sydd ar gael ar y Wefan hon, gan gynnwys y testun, graffeg, darluniau, gwaith celf, fideo, cerddoriaeth, logos, eiconau, recordiadau sain, cynllun, dyluniadau, cod ffynhonnell, rhaglenni a meddalwedd, sain, elfennau gweledol ac Asedau, yn eiddo i ni neu i’n trwyddedwyr (gyda’i gilydd, ‘ein heiddo deallusol’).
Ac eithrio fel y caniateir yn benodol yn Nhelerau’r Drwydded wrth ymyl pob ased, neu gyda’n caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, ni chewch wneud y canlynol mewn unrhyw ffordd:
Meddalwedd perchnogol yw’r meddalwedd sy’n gweithredu’r Wefan hon ac ni chaniateir i chi ei ddefnyddio ac eithrio fel y caniateir yn benodol o dan y telerau defnyddio hyn. Mae unrhyw ddefnydd arall o drwyddedu, addasu, gwella neu ymyrryd honedig wedi'i wahardd yn llwyr.
Mae enw a logo Llywodraeth Cymru a’r holl nodau masnach sy’n ymddangos ar y Wefan hon yn eiddo i ni, ein cyflenwyr, ein cwsmeriaid, ein cwmnïau cysylltiedig, neu ein trwyddedwyr. Ni ddylech ddefnyddio, atgynhyrchu na chaniatáu i unrhyw un ddefnyddio nac atgynhyrchu’r nodau masnach hynny am unrhyw reswm heb ein caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw ym mhob achos.
Os byddwch yn rhoi adborth i ni am y Wefan hon neu am ein gwasanaethau neu ein hasedau, efallai y byddwn yn defnyddio’r adborth hwnnw at ddibenion gwella ein Gwefan, ein Gwasanaethau neu ein Hasedau (ac at unrhyw ddiben eraill yr ydym yn credu sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol) heb orfod talu unrhyw iawndal i chi. Os byddwch yn anfon syniadau nad ydych wedi gofyn amdanynt atom:
Rydych chi’n cydsynio i dderbyn gohebiaeth gennym yn electronig ac rydych chi’n cytuno bod yr holl gytundebau, hysbysiadau, datgeliadau a chyfathrebiadau eraill a ddarparwn i chi’n electronig yn bodloni unrhyw ofyniad cyfreithiol bod cyfathrebiadau o’r fath yn ysgrifenedig. Rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan unrhyw gytundeb a wneir drwy gyfathrebu electronig o ran Deddf Trafodiadau Electronig 2002. Rydych yn cydsynio i dderbyn negeseuon electronig a gwybodaeth a anfonir gennym (neu ar ein rhan) at unrhyw ddibenion a ddisgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd neu a ddatgelir fel arall i chi. Rydych yn cytuno, yn unol ag adran 11(2) o Ddeddf Negeseuon Electronig Digymell 2007, nad oes angen i’r sawl sy’n anfon unrhyw neges o’r fath gynnwys cyfleuster datdanysgrifio swyddogaethol yn y neges honno.
Er ein bod yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar gael drwy’r Wefan hon yn gywir ac nad oes gwallau yn ei chynnwys, nid ydym yn rhoi unrhyw warant na sicrwydd arall ynghylch cynnwys deunydd sydd ar gael ar neu drwy’r System hon, ei chywirdeb, gweithrediad, ansawdd, swyddogaeth, cyflawnder, prydlondeb nac addasrwydd ar gyfer unrhyw ddiben penodol.
I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, ac yn amodol ar unrhyw gytundeb sydd gennym â chi sy’n darparu i’r gwrthwyneb, rydym yn darparu’r Wefan hon a’r holl Asedau, deunydd, gwybodaeth a gwasanaethau ar sail “fel y mae” heb unrhyw warant neu gynrychiolaeth o unrhyw fath (boed hynny’n ddatganedig, ymhlyg, statudol neu fel arall) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, warantau o beidio â thorri amodau, masnachu, neu addasrwydd at ddiben penodol.
Rydych yn cydnabod, os ydych yn dibynnu ar y Wefan hon neu ar unrhyw Asedau neu ddeunydd arall sydd ar gael drwy’r Wefan hon, eich bod yn gwneud hynny ar eich menter eich hun yn unig.
Nid yw’r safbwyntiau a fynegir mewn unrhyw ddeunydd trydydd parti (gan gynnwys yr Asedau) neu gynnwys defnyddwyr ar y Wefan hon neu sydd ar gael drwy’r Wefan hon o reidrwydd yn safbwyntiau Llywodraeth Cymru neu Brandkit, ac rydym yn ymwrthod yn benodol â’r holl gyfrifoldeb dros unrhyw ddeunydd trydydd parti neu gynnwys defnyddwyr ar y Wefan hon neu sydd ar gael drwy’r Wefan hon.
Ni fydd y telerau defnyddio hyn yn cyfyngu ar unrhyw hawl sydd gennych o dan gyfraith Seland Newydd, gan gynnwys Deddf Gwarantau Defnyddwyr 1993, os yw’n berthnasol. Fodd bynnag, os ydych chi’n defnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau at ddibenion busnes, rydych chi’n cytuno, i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, na fydd unrhyw warantau na rhwymedïau a ddarperir o dan Ddeddf Gwarantau Defnyddwyr 1993 yn berthnasol i’r gwasanaethau hynny.
Os bernir bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio hyn yn annilys neu’n anorfodadwy am unrhyw reswm, bydd gweddill y darpariaethau, i’r graddau mwyaf posibl, yn parhau mewn grym ac effaith lawn.
I’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Llywodraeth Cymru, Brandkit na’n cyflenwyr, dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol (mewn camwedd, contract neu fel arall) am unrhyw golled mewn elw, nac am unrhyw ddifrod neu golledion anuniongyrchol, damweiniol, canlyniadol neu economaidd (sut bynnag y’u hachosir), y gallwch eu dioddef yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn cysylltiad â’r canlynol:
Os bernir bod y cyfyngiad atebolrwydd yn y paragraff blaenorol yn annilys yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yna ni fydd ein hatebolrwydd cyfansymiol uchaf i chi ar gyfer yr holl iawndal, costau a threuliau (ac eithrio unrhyw ddifrod, cost a threuliau na ellir eu talu). cyfyngiad yn ôl y gyfraith) sy’n fwy na’r swm o un Bunt Brydeinig (£1.00).
Rydych yn cytuno i indemnio, amddiffyn, a dal Llywodraeth Cymru a Brandkit yn atebol, yn ogystal â’u swyddogion, cyfarwyddwyr, cyfranddalwyr, gweithwyr, ymgynghorwyr, trwyddedwyr, asiantau, a chyrff corfforaethol cysylltiedig, rhag unrhyw hawliad, atebolrwydd, iawndal, a chostau trydydd parti (gan gynnwys ffioedd cyfreithwyr rhesymol) sy’n deillio o’ch defnydd o’r Wefan hon, neu ddibyniaeth arni, neu unrhyw ddeunydd sydd ar gael ar y Wefan hon (gan gynnwys yr Asedau), eich methiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn, neu dorri unrhyw gyfraith berthnasol.
Mae'n bosibl y bydd eich defnydd o'r Wefan hon ac unrhyw wasanaethau cysylltiedig weithiau'n destun ymyrraeth, diffyg argaeledd, cyfyngiad neu oedi. Oherwydd natur y Rhyngrwyd a chyfathrebu electronig, nid ydym ni (na’n darparwyr gwasanaeth) yn gwarantu y bydd y Wefan hon nac unrhyw wasanaethau cysylltiedig heb wallau, ymyrraeth nac oedi, a heb unrhyw ddiffygion. Ni fyddwn yn atebol i chi os na fydd y Wefan hon neu'r gwasanaethau a ddarperir trwy'r Wefan hon ar gael, neu os bydd ymyrraeth, cyfyngiad neu oedi am unrhyw reswm.
Gall y Wefan hon gynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd parti (‘dolenni allanol’). Darperir hyperddolenni allanol er hwylustod yn unig ac efallai na fyddant yn gyfredol nac yn cael eu cynnal. Nid ydym yn cymeradwyo, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys sydd ar gael drwy unrhyw hyperddolen allanol. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal neu golled sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw wybodaeth neu wasanaeth a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, neu’n atodol iddynt. Chi sy’n gyfrifol am gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau a osodir gan wefannau trydydd parti.
Er ein bod yn ceisio atal firysau neu godau maleisus eraill (gyda’i gilydd, ‘cod maleisus’) rhag cael eu cyflwyno i’r Wefan hon, nid ydym yn gwarantu nad yw’r Wefan hon, nac unrhyw ddeunydd sydd ar gael arni neu drwyddi, yn cynnwys cod maleisus. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod na niwed y gellir ei briodoli i god maleisus. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r broses rydych chi’n ei defnyddio i gael mynediad i’r Wefan hon yn golygu bod eich system gyfrifiadurol yn agored i’r risg o ymyriant neu ddifrod gan god maleisus.
Er ein bod yn ceisio diogelu eich gwybodaeth bersonol, rydych yn cydnabod bod risg o fynediad heb awdurdod at (neu newid) eich trawsyrru neu ddata neu’r wybodaeth sydd ar eich system gyfrifiadurol neu ar y Wefan hon. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd o unrhyw fath am unrhyw golledion y gallech eu hwynebu o ganlyniad i fynediad neu addasiad o’r fath heb awdurdod. Mae’r holl wybodaeth a drosglwyddir i chi neu oddi wrthych yn cael ei throsglwyddo ar eich cyfrifoldeb chi, ac rydych yn ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb a risgiau sy’n codi mewn perthynas â’ch defnydd o’r Wefan hon a’r Rhyngrwyd. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ymyrraeth neu ddifrod i’ch system gyfrifiadurol eich hun a allai godi mewn cysylltiad â mynediad i’r Wefan hon neu unrhyw hyperddolen allanol.
Rydym yn cadw'r hawl i ychwanegu at, addasu, atal neu ddileu'r Wefan hon neu unrhyw wybodaeth, nodwedd, manyleb, neu ran arall o'r Wefan hon (ar unrhyw adeg a heb rybudd i chi). Rydym yn cadw’r hawl i newid y telerau defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Dylech adolygu’r telerau defnyddio o bryd i’w gilydd yn erbyn yr ased rydych wedi’i lawrlwytho. Drwy barhau i gael mynediad at y Wefan hon neu ei defnyddio yn dilyn cyhoeddiad o’r fath, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau defnyddio.
Mae’r Wefan hon yn cael ei rheoli a’i gweithredu gennym ni, o swyddfeydd yn Seland Newydd. Mae’r manylion ar y Wefan hon wedi cael eu paratoi yn unol â chyfraith Seland Newydd ac efallai na fyddant yn bodloni cyfreithiau unrhyw wlad arall. Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau ynghylch a yw’r wybodaeth sydd ar gael o’r Wefan hon yn briodol mewn gwledydd eraill ai peidio. Os byddwch yn dewis defnyddio’r Wefan hon o’r tu allan i Seland Newydd, chi sy’n gyfrifol am gydymffurfio â'r gyfraith leol berthnasol.
Bydd y telerau defnyddio hyn (ac unrhyw gontractau rhyngoch chi a ni sy’n codi drwy eich defnydd o’r Wefan hon) yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Seland Newydd a bydd gan lysoedd Seland Newydd awdurdodaeth anghyfyngedig i wrando a phenderfynu ar unrhyw anghydfod sy’n codi mewn perthynas â’r telerau defnyddio hyn (ac unrhyw gontractau rhyngoch chi a ni sy’n codi drwy eich defnydd o’r Wefan hon).
Cafodd y telerau defnyddio hyn eu diweddaru ddiwethaf ar 31 Mawrth 2016.