Rydym yn defnyddio cwcis

We use Cookies to improve your experience on this site.

You can accept our cookies policy or customise your choices.

Please refer to our Cookies Policy for more information.

Rheoli gosodiadau cwcis

Cysylltwch â ni

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio asedau, canllawiau ein brand, pa fath o ffeil i’w defnyddio, trwyddedu neu faterion cyfreithiol.

Gwasanaethau Dylunio
E-bost: design@gov.wales

Cwestiynau Cyffredin

YR ELFENNAU SYLFAENOL
C. Faint mae’n ei gostio i gael mynediad at yr asedau a’u defnyddio?
Rydym yn darparu amrywiaeth o asedau marchnata parod i’w defnyddio. Gallwch lawrlwytho ein hasedau a’u defnyddio am ddim.
DECHRAU ARNI
C. Sut mae cofrestru?
O’r dudalen gartref, cliciwch ar y botwm ‘mewngofnodi/cofrestru’ yn y bar offer llywio ar frig y dudalen. Mae angen i chi roi a chadarnhau eich cyfeiriad e-bost a gosod cyfrinair a chwblhau eich proffil defnyddiwr. Ar ôl cofrestru, byddwch yn CAEL rôl defnyddiwr diofyn ar gyfer cofrestru defnyddwyr. I gael mynediad at rai asedau a mwy o nodweddion, efallai y bydd angen rôl defnyddiwr wahanol arnoch. Gall Gweinyddwyr y Wefan newid rolau defnyddwyr ar ôl i chi gofrestru. Neu efallai y byddwch yn cael Gwahoddiad Defnyddiwr drwy e-bost gyda rôl defnyddiwr gwahanol wedi’i neilltuo i chi ymlaen llaw. Os ydych chi’n meddwl bod angen rôl defnyddiwr gwahanol arnoch chi, anfonwch e-bost at design@gov.wales.
C. Sut ydw i'n rheoli'r cyfrif?
I weld gwybodaeth sy'n ymwneud â gweithgarwch eich cyfrif (lanlwytho, lawrlwytho, basgedi wedi'u cadw, ac ati). Mewngofnodwch i'ch cyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar yr eicon defnyddiwr yn y bar offer llywio ar frig y dudalen ac yna dewiswch opsiwn o'r rhestr gosodiadau. Dewiswch ‘Fy Mhroffil’ i gael trosolwg o’ch cyfrif. Yma gallwch olygu a diweddaru eich manylion personol, gweld telerau defnyddio, polisi preifat, lawrlwytho eich data personol neu ddileu eich cyfrif. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn caniatáu i chi reoli eich gwybodaeth bersonol. Felly, os byddwch yn dileu eich cyfrif, ni allwn ei adfer.
C. Alla i rannu fy nghyfrif (un cyfrif ar gyfer sawl defnyddiwr) â fy nghydweithwyr?
Na, pan fyddwch yn lawrlwytho ased rydych ‘Chi’ yn cytuno i’n telerau defnyddio, a chi sy’n gyfrifol am yr ased.
C. Beth sy’n digwydd ar ôl i mi fewngofnodi?
Ar ôl mewngofnodi, byddwch yn gallu gweld a lawrlwytho neu wneud cais am asedau sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer eich rôl defnyddiwr. Yn dibynnu ar eich Rôl Defnyddiwr, byddwch yn gallu gweld a chael mynediad at Asedau penodol (neu rwydweithiau). Bydd gan staff Llywodraeth Cymru fynediad at asedau/cynnwys ychwanegol.
DEFNYDDIO ASEDAU
C. Beth yw ased digidol?
Mae ased digidol yn ffeil mewn fformat digidol sydd â gwerth i sefydliad neu fusnes. Nid yw ffeiliau sydd heb fetadata na rheoli hawliau yn cael eu hystyried yn "Asedau". Enghreifftiau o asedau digidol yw delweddau, fideos, PDFs, gwaith celf, logos, ffeiliau dylunio a ffeithluniau. Gall asedau digidol hefyd fod yn destunau ysgrifenedig fel Blogiau, Datganiadau i’r Wasg, Copi Marchnata, ac ati. Mae asedau digidol yn defnyddio rheoli hawliau sy'n trwyddedu eu defnydd, fel y nodir gan berchennog yr asedau.
C. Sut mae chwilio am Asedau?
Gallwch ddechrau chwilio a phori am Asedau ar unwaith. Dechreuwch drwy deipio term chwilio yn y blwch chwilio (e.e. ‘Traeth’) ac mae rhestr o eiriau a awgrymir (neu Dagiau) yn ymddangos wrth i chi deipio. Dewiswch y tag rydych am ei gael drwy glicio arno.

e.e. Teipiwch ‘Traeth’, a bydd y canlyniadau’n ymddangos mewn grid gweledol o asedau (Canlyniadau Chwilio).

Tagiau (a elwir hefyd yn Allweddeiriau) yw'r prif ddull chwilio. Os ydych chi’n chwilio am leoliad neu ddigwyddiad penodol, rhowch enw’r lleoliad neu’r digwyddiad yn y blwch chwilio. Os nad oes canlyniad, yn anffodus nid oes gennym luniau na fideos nac asedau eraill sy'n cyfateb i'ch chwiliad. Gallwch hefyd chwilio am Fath o Ased (e.e. Delwedd), Math o Ffeil (e.e. png) neu ID Ased (os yw’n hysbys). Gellir chwilio am enw ffeil (os yw’n hysbys) a Chyfeiriadedd (e.e. Portread neu dirwedd). Mewn rhai achosion, ni fyddwch yn cael ‘awgrymiad awtomatig ar gyfer darogan teipio’ wrth i chi deipio. Ond daliwch ati i deipio a chlicio ‘enter’ i chwilio am enw a disgrifiad yr Ased.
C. Pam mae’n rhaid i mi wneud cais am asedau?
Mae’n rhaid i rai defnyddwyr (yn dibynnu ar Rôl y Defnyddiwr) wneud cais am Asedau (yn hytrach na’u lawrlwytho ar unwaith). Ar gyfer y defnyddwyr hyn, rydym yn hoffi gwybod sut rydych chi’n defnyddio ein hasedau a pha fath o hyrwyddiadau rydych chi’n gweithio arnyn nhw cyn i ni ganiatáu mynediad. Pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi ac yn adolygu’r rheini cyn cymeradwyo neu wrthod eich cais.
TRWYDDEDU
C. Beth yw trwydded?
Mae trwyddedu yn ganiatâd swyddogol i ddefnyddio Ased a reolir gan hawliau. Dull safonol y diwydiant ar gyfer gwerthu neu rannu lluniau at ddibenion golygyddol a marchnata. Nid yw’n golygu eich bod yn berchen ar y ddelwedd yn llwyr, gallwch ddefnyddio’r ased at ddiben penodol a rywbryd am gyfnod cyfyngedig. Os ydych chi eisiau darllen mwy am ein trwyddedau, cliciwch ar fân-lun o’r grid asedau i weld manylion y drwydded ar gyfer pob Ased. Gallwch hefyd weld y manylion hyn pan fyddwch yn lawrlwytho neu’n gwneud cais am Ased.
C. Beth yw nodyn defnydd?
Set o gyfarwyddiadau sy’n egluro sut gallwch chi ddefnyddio ein hasedau a/neu os oes cyfyngiadau. Mae enghreifftiau o lwyfannau defnydd cymeradwy yn cynnwys papurau newydd, cylchgronau, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniad, llyfryn, teledu a ffilm.
C. Pa gyfyngiadau ddylwn i fod yn ymwybodol ohonynt?
Os oes gan yr Ased Ddyddiad Dod i Ben (sydd i’w weld ar y dudalen Manylion yr Ased a phaneli manylion y Drwydded wrth lawrlwytho, rhannu ac anfon), rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r holl asedau hynny ar y dyddiad dod i ben.

Os ydych chi’n gwmni cynhyrchu sy’n gweithio ar ddarllediad teledu, gallwch wneud cais am ddefnydd estynedig o ddeunydd fideo eilradd (B-Roll).

Dim defnydd masnachol. Sy’n golygu na allwch ddefnyddio ein hasedau fel eitemau ailwerthu gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, cardiau, eitemau papur swyddogol, calendrau, eitemau wedi’u hatodi, DVDs, rhaglenni symudol, NFTs neu eitemau eraill i’w hailwerthu, trwydded, neu ddosbarthiad arall er elw. Mae hyn yn cynnwys cynnyrch “ar alw”, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, cardiau post, mygiau, crysau-t, posteri ac eitemau eraill (mae hyn yn cynnwys gwerthu cynnyrch drwy wefannau pwrpasol).
C. Beth yw ystyr cynnwys heb freindaliadau?
Mae trwydded heb freindaliadau yn drwydded anghyfyngedig gyda hawliau dosbarthu Byd-eang. Nid oes angen i chi dalu breindaliadau na ffioedd trwydded ar gyfer defnydd untro neu am gyfnod y drwydded. Mae gennych chi ganiatâd i ddefnyddio ein hasedau mewn cyfryngau â thâl neu di-dâl. Rhaid i chi briodoli’r unigolyn neu’r sefydliad a ddangosir yn y maes credyd. Mae’r drwydded hon yn ddarostyngedig i gyfraith hawlfraint.

Pan fyddwch chi’n lawrlwytho ffeil o’r wefan hon, rydych chi’n rhoi trwydded ar waith. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio’r ffeil os ydych chi’n cytuno â’n telerau defnyddio.
C. Alla i lawrlwytho delwedd unwaith, a’i hailddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill?
Na, rhaid i chi ofyn am y ffeil a'i lawrlwytho, eto, i'w defnyddio ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
C. Pam na alla i weld neu lawrlwytho’r fideos sydd ar eich sianel YouTube?
Gall y fideos ar ein sianel YouTube gynnwys amrywiaeth o gynnwys fideo a reolir gan hawliau gwahanol a chynnwys sain sydd wedi’i drwyddedu i’w ddarlledu ar Youtube. Mae croeso i chi rannu dolenni i’n fideos YouTube ond ni allwn ddarparu’r ffeil wreiddiol i chi ei lawrlwytho neu ei lletya oherwydd y cyfyngiadau trwyddedu hyn.
LAWRLWYTHO
C. Sut mae ceisiadau am asedau yn gweithio?
Os oes angen i chi Wneud Cais am Ased (yn hytrach na’i Lawrlwytho), yna mae angen i chi wneud Cais am Ased. Gallwch ofyn am un Ased, neu swp o Asedau (gan ddefnyddio'r Fasged). Ar ôl i chi lenwi ffurflen gais a'i chyflwyno, bydd Gweinyddwyr y Cyfrif yn adolygu eich cais. Os yw eich cais wedi’i Gymeradwyo, byddwn yn anfon y ffeil atoch drwy e-bost Rhannu. Os bydd yn cael ei Wrthod, byddwn yn rhoi gwybod i chi dros e-bost.
C. Sut mae’r Fasged yn gweithio?
Mae’r Fasged yn gadael i chi ddewis mwy nag un Ased ar gyfer gweithredu pellach. Gellir cadw basgedi fel Basged/Casgliadau wedi’u Cadw a chael mynediad iddynt o’ch cyfrif pryd bynnag y byddwch eu hangen. Gallwch lawrlwytho’r holl Asedau mewn Basged mewn un ffeil zip. Gallwch rannu eich basgedi ag unrhyw gyfeiriad e-bost. Mae basgedi yn ffordd wych o lawrlwytho neu wneud cais am fwy nag un ased ar y tro. Gall Gweinyddwr y Cyfrif hefyd ddefnyddio Basged i wneud golygiadau i swp ac unrhyw dasgau Gweinyddol eraill. Rydym wrth ein bodd â’r Fasged.
C. Alla i olygu’r Asedau rydw i’n eu lawrlwytho?
Ni ddylai hunaniaeth a logos brand fyth gael eu golygu, eu newid na’u torri’n ddarnau. Ni ddylid golygu na newid asedau eraill. Oni bai fod rheolau’r Drwydded neu gyfarwyddiadau Defnyddio yn caniatáu addasu neu olygu. Er enghraifft, gellir golygu fideos B-Roll i’ch prosiect fideo eich hun.
C. Beth yw fideos B-Roll?
Mae fideos B-roll yn gasgliad o glipiau fideo wedi’u curadu’n ofalus sy’n ymdrin ag amrywiaeth o themâu. Rydym yn llwyr berchen ar yr hawliau i unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ddangos yn y casgliadau hyn a gellir lawrlwytho’r rhain a’u golygu i’ch prosiectau fideo eich hun ar yr amod eich bod yn cytuno i delerau perthnasol y Drwydded. Gan fod y rhain yn gasgliadau o ddeunydd heb ei olygu yn aml, mae maint y ffeiliau yn aml yn eithaf mawr, felly rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho unrhyw glipiau B-roll fesul un. Mae hyn er mwyn lleihau’r effaith ar ein system a bydd yn gwella’r amseroedd danfon i chi.
DATRYS PROBLEMAU
C. Dydw i ddim yn cael hysbysiadau dros e-bost (i ddilysu manylion adnabod fy nghyfrif)?
Mae hidlo sbam wedi mynd yn fwy trylwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae darparwyr e-bost yn mynd i’r afael â sbamiau er mwyn gwasanaethu eu cwsmeriaid yn well. Y broblem yw nad yw’r broses hidlo’n berffaith 100%. Edrychwch yn eich ffolder post sothach neu sbam. Ond os nad yw'r e-bost yn eich ffolder sbam, cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio datrys hyn.
C. Sut mae adfer fy nghyfrinair sydd ar goll?
Os ydych chi wedi colli eich cyfrinair, bydd yn rhaid i chi ei ailosod. I wneud hynny, dewiswch y ddolen Cyfrinair Ar Goll ar y ffurflen fewngofnodi. Yna rhowch eich cyfeiriad e-bost cofrestredig (yr e-bost rydych chi wedi cofrestru ag ef ar y wefan hon). Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i ailosod eich cyfrinair.
C. Pan fyddaf yn agor y wefan, rwy’n cael sgrin wag, neu mae’r eicon llwytho yn dal i droi?
Efallai fod gennych borwr gwe anghydnaws. Mae'r wefan hon yn gofyn am borwr gwe modern gyda Javascript a Cwcis wedi'u galluogi. Gweler rhestr o borwyr gwe cydnaws yma.
C. Rydw i’n ceisio teipio fy manylion ond mae’r dudalen yn rhewi a does dim byd yn digwydd.
Caewch bob ffenestr neu dabiau porwr sydd ar agor ac ailgychwyn eich porwr. Bydd angen cau unrhyw apiau a rhaglenni eraill sydd ar agor. Ailgychwynnwch y cyfrifiadur. Yn y dewisiadau porwr, bydd angen analluogi’r apiau ac unrhyw estyniadau eraill. Sganiwch eich cyfrifiadur am faleiswedd neu firysau. Ailosodwch eich porwr i'w gyflwr diofyn. Os ydych chi’n dal i gael yr un broblem, bydd angen dadosod ac ailosod eich porwr gwe.
C. Nid yw fy nghwestiwn yn cael ei ateb yma, ble alla i gael help ychwanegol?
Anfonwch e-bost at design@gov.wales a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.