Gwrando Am 20mya
Mae Llywodraeth Cymru yn grymuso cymunedau lleol i wneud dewisiadau ar y terfyn cyflymder o 20mya. Yn ystod Haf 2024, gwnaethom annog pobl i roi eu hadborth i'w hawdurdod priffyrdd. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau diwygiedig y gellir eu hystyried ochr yn ochr â'r adborth a gafwyd i alluogi awdurdodau priffyrdd i benderfynu pa ffyrdd ddylai fod yn 20 neu 30mya.
Dylai'r asedau hyn eich helpu i gyfleu'ch camau nesaf ar 20mya, fel bod pobl yn gwybod sut i ddweud eu dweud, a gallwn gael y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir.
Mae'r ffolder hon yn cynnwys templedi i greu delweddau cyfryngau cymdeithasol penodol i awdurdodau lleol, gyda negeseuon cyfryngau cymdeithasol a thestun gwe awgrymedig.
Gweld asedau’r ymgyrch